Hanes digon byr sydd i Tiger Bay a'r Dociau - tua 200 mlynedd.
Wedi i’r porthladd dyfu’n gyflym, ar sail allforio glo yn bennaf, daeth tro ar fyd wrth i'r busnes glo ddirywio. Yn ystod y broses, datblygwyd cyfleusterau helaeth yn y dociau, cyn iddyn nhw bylu ac adfeilio. Bu adfywio’n broses araf, ac nid yw hanes treftadaeth ddiwydiannol a morwrol yr ardal wedi ei gyfleu’n dda.
Ar goll o’r hanes hefyd i raddau helaeth mae’r gymuned a faged yno. O ganlyniad i ddyfodiad y rheilffordd cafodd yr ardal ei gwahanu bron yn gyfan gwbl oddi wrth weddill y Caerdydd. Datblygwyd enw gwael i’r ardal fel man amheus i forwyr. Ond, gyda phobl yn cyrraedd o bedwar ban byd - yn cynrychioli dros 50 o genhedloedd i gyd - tyfodd cymuned glos oedd yn cofleidio'r amrywiol ddiwylliannau.
Yma rydym yn adrodd rhai o'r hanesion coll drwy ddefnyddio ffotograffau o'n casgliadau.