Skip to main content

Adfywio

Ar ôl yr Ail Ryfel Byd, roedd Llywodraeth y DU yn annog codi tai newydd i gymryd lle'r rhai a ddinistriwyd neu a ddifrodwyd ond hefyd i adnewyddu tai o ansawdd gwael. Gyda dirywiad economaidd y dociau cyn y rhyfel, roedd eiddo yn Tiger Bay a'r Dociau wedi'u hesgeuluso a barnwyd bod angen eu disodli.

Dechreuodd y gwaith adnewyddu gyda datblygiad Sgwâr Hodges a pharhaodd ar Sgwâr Loudoun lle adeiladwyd dau floc uchel o fflatiau yn y parc canolog. Cafodd trigolion y strydoedd gerllaw eu cartrefu yma ac mewn stadau tai cyngor newydd mewn ardaloedd fel Llanrhymni a Threlái, a chafodd eu tai eu dymchwel yn rhan o broses barhaus. Yn eu tro daeth strydoedd yn safleoedd adeiladu newydd ar gyfer terasau o dai cyngor. Fe wnaeth rhai o'r cyn-drigolion ddychwelyd i fyw yn y rhain.

Yn gyffredinol, roedd pobl wrth eu bodd gyda'u cartrefi newydd. Darparwyd siopau newydd a chanolfan iechyd modern hefyd ond roedd gofid mawr am chwalu'r gymuned ac mae hyn yn dal i gael ei fynegi gan lawer hyd heddiw.

Dilynodd ailddatblygu’r Dociau ychydig yn ddiweddarach ond unwaith eto roedd hyn yn golygu dymchwel tai, tafarndai, siopau a busnesau a chodi tai cyngor newydd ac ysgol newydd - Ysgol Gynradd Mount Stuart.

Yn ddiweddarach eto, yn sgil gweithgareddau Corfforaeth Datblygu Bae Caerdydd, daeth y sefydliadau manwerthu, hamdden, ac adloniant rydyn ni’n eu cysylltu â Bae Caerdydd heddiw.