Skip to main content

Y Dociau yn ystod y Rhyfeloedd

Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf daeth y dociau dan reolaeth Filwrol. Cafodd holl longau masnach Prydain eu meddiannu a blaenoriaethwyd danfon glo i'r Llynges Frenhinol.

Meddiannwyd treill-longau Neale and West a P & A Campbell i glirio ffrwydrynnau. Bwriadwyd i longau tanfor yr Almaen gynnal blocâd ar y DU. Yn ystod y gwrthdaro collwyd 205 o longau oedd wedi eu cofrestru neu'n berchen i bobl o Gaerdydd i longau tanfor Almaenig, ynghyd â 128 arall oedd wedi hwylio o Gaerdydd. Collwyd o leiaf 1500 o forwyr, oedd wedi dod yn bennaf o wledydd yr Ymerodraeth Brydeinig.

Ar ôl i UDA ymuno â’r rhyfel ym 1917 sefydlwyd pencadlys llyngesol yng Ngwesty'r Angel a oedd yn cael ei adnabod fel USS Chatinouka.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd daeth y dociau dan reolaeth y Weinyddiaeth Trafnidiaeth Ryfel ac fe'i defnyddiwyd fel canolfan gyflenwi ac felly daethon nhw’n darged i gyrchoedd awyr Luftwaffe yn enwedig ar ddechrau 1941.

Cafodd y rhodlongau eu meddiannu eto fel llongau clirio ffrwydrynnau, ond bu rhai hefyd yn rhan o'r ymdrech i wacáu Dunkirk ym 1940.

O 1942 ymlaen daeth llwythi enfawr o gyflenwadau milwrol a phersonél yr Unol Daleithiau drwy'r dociau yn enwedig wrth baratoi ar gyfer glaniadau D-day Normandi a gweithrediadau dilynol.