Skip to main content

Atgyweirio Llongau

Am gyfnod ar ddiwedd y 1800au roedd ychydig o waith adeiladu llongau yn digwydd, gan gwmnïau fel John Batchelor, N Scott Russell a Chas.Hill & Sons.

Ond ni ddatblygodd y diwydiant hwn, a daeth mwy o fri ar atgyweirio llongau, o bosibl oherwydd maint cynyddol fflyd llongau masnach Caerdydd.

Wrth i longau gynyddu mwyfwy mewn maint a chael eu gyrru gan stêm, roedd angen sgiliau ac offer atgyweirio arbenigol. Caniataodd Deddf Seneddol ym 1856 ffurfio Cwmnïau Cydgyfalaf, a defnyddiwyd y rhain i godi'r cyfalaf sylweddol oedd ei angen i ddatblygu'r cyfleusterau yng Nghaerdydd. Blodeuodd gwaith ar ddociau sych, llithrfeydd, pontynau a pheirianneg cysylltiedig, ac roedd perchnogion lleol llongau yn amlwg yn eu sefydlu.

Ymhlith yr enwau mawr yn y 1880au cynnar roedd Hill's Dry Docks and Engineering Co. Ltd, Cardiff Junction Dry Dock and Engineering Co. Ltd, Mount Stuart Shipbuilding, Graving Docks and Engineering Co. Ltd, Bute Shipbuilding, Engineering and Dry Dock Co. Ltd, Channel Dry Docks & Engineering Co. Ltd.

Credir bod 22 o fentrau o'r fath ar waith erbyn 1915. Er hynny roedd digon o waith i bawb gyda’r gwaith atgyweirio yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf yn sgil gweithrediadau’r gelyn. Roedd cyfleusterau'n cael eu defnyddio hyd yr eithaf yn ystod yr Ail Ryfel Byd hefyd.

Yn ddiweddarach, lleihaodd busnes wrth i longau masnach fynd yn rhy fawr ar gyfer y cyfleusterau. Gyda phob un o'r dociau wedi cau a’r morglawdd wedi ei adeiladu, does yna’r un doc bellach ar waith.