Skip to main content

Mewnforio ac Allforio

Roedd Dociau Caerdydd wedi eu datblygu bron yn gyfan gwbl ar gyfer allforio glo. Gyda'r defnydd cynyddol o olew edwinodd yr allbwn glo o byllau de Cymru a dioddefodd Caerdydd.

Ond hyd yn oed erbyn 1936, roedd 97.5% o allforion Caerdydd yn cynnwys glo, golosg a thanwydd patent. Roedd y fasnach fewnforio yn gymharol fach ac yn cynrychioli ddim ond ryw 15% o gyfanswm y fasnach. Ar y pryd y prif gynnyrch oedd coed i'r pyllau glo ac ar gyfer adeiladu; mwyn haearn ar gyfer gwaith Dowlais; a grawn ar gyfer melino gan bobl fel Spillers.

Ar ôl yr Ail Ryfel Byd, effeithiodd y duedd at ddefnyddio paletau a chynwysyddion yn y fasnach forwrol ar ddatblygiad porthladdoedd wrth i longau mwy a mwy gael eu hadeiladu. Roedd dociau Caerdydd yn rhy fach i fanteisio'n llawn ar hyn ond serch hynny fe wnaed ymdrech i gadw masnach i lifo drwy'r porthladd. Ychwanegwyd cyfleusterau newydd a deliwyd ag amrywiaeth lawer ehangach o gynhyrchion gan gynnwys ffrwythau, cig wedi'i rewi, menyn, grawn, olew, pren, ceir ac eraill.

Mae'r porthladd yn cael ei weithredu heddiw gan Gymdeithas Porthladdoedd Prydain ac Dociau’r Frenhines Alexandra a’r Rhath yn trin tua 1.8 miliwn tunnell o lwythi bob blwyddyn, gyda gwerth o dros £400m.