Haearn a Dur
Roedd Gwaith Haearn Dowlais wedi bod yn gweithredu ger Merthyr Tudful ers 1759 gyda gwaith cynhyrchu dur yn dechrau yno ym 1865. Roedd cledrau rheilffyrdd yn gynnyrch pwysig.
Roedd Dowlais eisoes yn defnyddio mwyn o Sbaen ac felly roedd yn synhwyrol, wrth ehangu, i adeiladu'r cyfleuster ger Doc newydd y Rhath a fyddai'n ymgorffori glanfa bwrpasol ar gyfer y mwyn. Dechreuodd y gwaith ar safle East Moors ym 1888 ac ym mis Chwefror 1891, agorwyd y gwaith. Erbyn 1895 roedd y cyfleusterau wedi agor yn llawn, ac yn cynnwys 4 ffwrnais chwyth a chyfleuster haearn crai a gwaith dur a melin blatio. Roedd y gwaith newydd yn arbenigo mewn gwneud platiau dur i'w defnyddio wrth adeiladu llongau.
Wedi i amryw gwmnïau gyfuno ac ar ôl newid enw sawl gwaith, daeth y cwmni i gael ei adnabod fel Guest Keen & Nettlefolds (GKN)
Gwnaed gwaith ailddatblygu mawr ar safle East Moors yng nghanol y 1930au. Cadwyd yr hen ffwrneisi chwyth ond ychwanegwyd cyfleusterau newydd helaeth i gynyddu'r allbwn haearn crai ac ingotiau dur. Sefydlwyd melin i wneud rhodiau dur i'w defnyddio wrth gynhyrchu sgriwiau a hoelion.
Ar ôl yr Ail Ryfel Byd dechreuodd y gwaith ddioddef o'r cyfyngiadau ar faint y safle - doedd dim modd ehangu ymhellach. Esgorodd hyn ar ddirywiad graddol a chaewyd safle East Moors ym 1978.
-
011 0004
Construction of Blast Furnaces - East Moors 1890 Adeiladu ffwrneisi chwyth - East Moors 1890 -
011 0004
Aerial View of Steelworks in 1946 Llun o'r awyr o waith dur ym 1946 -
011 0004
Demolition of East Moors Steelworks
The steelworks closed in 1978 with the loss of 3200 jobs.
This photo is dated 31/07/1979.Dymchwel Gwaith Dur East Moors
Caeodd y gwaith dur ym 1978, gyda 3,200 o swyddi’n cael eu colli.
Mae'r llun hwn wedi ei ddyddio 31/07/1979. -
301 6230
Discharging iron ore at Dowlais Wharf for East Moors Steel Works. Dadlwytho mwyn haearn yng Nglanfa Dowlais ar gyfer Gwaith Dur East Moors. -
301 6230
MV Alexander T Wood discharging 19,500 tons of iron ore in 1962. MV Alexander T Wood yn dadlwytho 19,500 tunnell o fwyn haearn ym 1962. -
301 6230
MV Oredian discharging iron ore at Dowlais Wharf which adjoined the steelworks. MV Oredian yn dadlwytho mwyn haearn yng Nglanfa Dowlais a oedd yn ffinio â'r gwaith dur. -
301 6234
Iron rods being loaded onto MV Empire Freedom. Gwiail haearn yn cael eu llwytho i MV Empire Freedom. -
301 6236
Scrap iron being unloaded at Dowlais Wharf for transfer to steel works. Dadlwytho haearn sgrap yn Nglanfa Dowlais er mwyn ei drosglwyddo i waith dur.