Skip to main content

Caerdydd a'r Dociau

Roedd caer yng Nghaerdydd o'r cyfnod Rhufeinig cynnar gyda chei bychan a ddefnyddid gan fasnachwyr Llychlynnaidd hefyd. Yn ddiweddarach adeiladodd y Normaniaid gastell ar olion yr hen gaer Rufeinig. Tyfodd anheddiad ac erbyn canol y ddeuddegfed ganrif roedd y boblogaeth tua 2000.

Yn y 18fed ganrif roedd masnach forwrol yn datblygu'n gyflym, ond roedd Caerdydd dan anfantais oherwydd yr anallu i ddarparu ar gyfer llongau mawr. Erbyn diwedd y ganrif honno roedd cynhyrchu haearn yn tyfu'n gyflym o gwmpas Merthyr Tudful. Roedd dadlwytho a llwytho llongau wedi’u hangori yn y sianel neu ar y mwd ger ceg yr afon ymhell o fod yn foddhaol ac yn yr oes adeiladu camlesi, ystyriwyd Camlas Sir Forgannwg yn ateb delfrydol i’r problemau trafnidiaeth.

Roedd cymaint o lo’n cael ei dynnu o’r Cymoedd, fodd bynnag, fel bod y gamlas yn annigonol. Roedd angen cyfleusterau dociau a glanfeydd ychwanegol.

Ac felly dechreuodd 70 mlynedd o ehangu cyson yn y dociau, tan mai Caerdydd oedd allforiwr glo mwyaf y byd ar ddechrau’r 20fed Ganrif.

Developed by The Heritage & Cultural Exchange a Charitable Incorporated Organisation ( No. 1174349)

We are grateful to the following who have allowed use of some images from their collections, and who retain the copyright thereto:
Cardiff Council / ABP Collection | Amgueddfa Cymru - Museum Wales | Cardiff Hubs and Libraries