Skip to main content

Camlas Sir Forgannwg

Tyfodd y diwydiant cynhyrchu haearn o gwmpas Merthyr Tudful yn sgil y bartneriaeth rhwng Richard Crawshay a Henry Cort, oedd wedi rhoi patent ar broses gwneud haearn o ansawdd gwell. Gwnaeth y galw ychwanegol am haearn gyr "newydd a gwell" ychwanegu at y problemau o ran ei gludo i gwsmeriaid drwy Gaerdydd, y porthladd agosaf. Roedd y daith dros dir yn araf ac anfoddhaol.

Ond, roedden ni yn oes y Camlesi ac felly adeiladwyd Camlas Sir Forgannwg fel ateb. Daeth hyn â'r llwyth cyntaf o haearn i Gaerdydd ym mis Chwefror 1794.

Yn ddiweddarach, gwelwyd bod ansawdd glo De Cymru cystal nes i'r fasnach ar hyd y Gamlas dyfu i'r fath raddau nes i ddoc y gamlas gael ei orddefnyddio.

Roedd cwmni’r gamlas eisiau adeiladu doc mwy, ond roedd y tir roedd ei angen yn eiddo i 2il Ardalydd Bute. Yn y pen draw, gwelodd yr Ardalydd bod cyfleoedd busnes iddo yntau hefyd, a buddsoddodd yn yr hyn a fyddai’n datblygu’r Ddoc Gorllewin Bute wrth ymyl y gamlas.