Skip to main content

Doc Dwyrain Bute

Gwta 12 mlynedd wedi i Ddoc y Gorllewin gael ei agor roedd eisoes yn ei chael hi'n anodd ymdopi â'r nifer cynyddol a maint y llongau, a llofnodwyd cytundebau i greu doc newydd.

Dechreuwyd ar y gwaith ym mis Ionawr 1852 a'i gwblhau ar gyfer agoriad ym mis Gorffennaf 1855. Ond hyd yn oed wrth gael ei adeiladu roedd hi'n amlwg nad oedd maint arfaethedig y doc yn ddigonol. Wedi hynny ychwanegwyd dau estyniad, un yn agor ym 1857 a’r llall ym 1859.

Maint y doc yn y pendraw oedd 4300 troedfedd o hyd, 300 troedfedd o led am 1000 troedfedd a 500 troedfedd o led am y gweddill. Roedd y loc mynediad yn 49 troedfedd o led. Roedd cyfanswm y gwariant yn £1.25m (£169m heddiw).

Honnir mai Doc Dwyrain Bute oedd y mwyaf ym Mhrydain, ac efallai’r byd, ar hynny o bryd, ac roedd y doc hwn yn unig yn trin 4m tunnell o lo bob blwyddyn drwy'r 1880au hwyr, gan gynnwys mewn shifftiau dros nos rheolaidd.

Ond nid glo oedd yr unig gynnyrch. Roedd sawl warws yng Nglanfa'r Iwerydd a phen gogleddol y doc. Roedd cei pren a phwll yno, a dociau sych a gwaith peirianyddol