Skip to main content

Doc Gorllewin Bute

Roedd 2il Ardalydd Bute yn berchen ar ddarnau mawr o dir â hawliau mwyn yng nghymoedd de Cymru. Roedd rhai wedi cael eu prydlesu ac roedd glo'n cael ei gloddio am elw mawr. Penderfynodd ei bod hi'n bryd iddo yntau wneud yr un peth.

Un rhwystr mawr oedd cael y glo i farchnad. Roedd Camlas Sir Forgannwg eisoes yn orlawn. Roedd yr Ardalydd hefyd yn berchen ar dir yng Nghaerdydd ac fe roddodd Deddf Seneddol ym 1830 ganiatâd iddo adeiladu "Camlas Longau Bute"

Roedd y doc newydd yn 4000 o droedfeddi o hyd a 200 o droedfeddi o led gyda loc mynediad 47 troedfedd o led. Gwariwyd £338,000 ar y gwaith adeiladu (tua £45m heddiw).

Agorwyd y doc ar 9 Hydref 1839 gyda dathliadau mawr.

Cymerodd Cwmni Rheilffordd Cwm Taf brydles o 1841 a gosod llinellau trên ar hyd ochr ddwyreiniol y doc er mwyn delio ag allforio haearn a glo o Ferthyr Tudful.

Roedd yr ochr orllewinol ar gyfer warysau a'r fasnach fewnforio.

Roedd 43,651 o lwythi llong bob blwydd i ddechrau. Erbyn 1854 roedd cyfanswm y fasnach yn 1.33m tunnell ac roedd cyfartaledd o 130 o longau'r wythnos yn defnyddio’r cyfleusterau.

Roedd y doc wedi mynd yn orlawn.
Roedd angen mwy o le.