Skip to main content

Crefyddau

Roedd Butetown yn gymuned o ddiwylliannau amrywiol ac nid yw'n syndod bod amrywiaeth fawr o grefyddau yn cael eu dilyn yno - Bedyddwyr, Catholigion, yr Eglwys yng Nghymru, y grefydd Uniongred Roegaidd, Lutheriaid, Iddewon, Methodistiaid, Mwslimiaid, Crynwyr, Byddin yr Iachawdwriaeth - a chapeli Cymraeg yn eu plith.

Roedd goddefgarwch crefyddol yn naturiol yno. Yn wir, nid oedd yn anarferol i bobl fynychu gwahanol enwadau. Roedd hyn yn arbennig o wir am blant a fyddai'n ymuno â pha bynnag ŵyl grefyddol oedd yn cael ei dathlu waeth beth fo'u cefndir eu hunain. Dathlwyd Eid a'r Nadolig gan y gymuned gyfan fwy neu lai.

Mae llawer o adeiladau'r eglwysi a'r capeli bellach wedi diflannu. Ond mae dwy enghraifft nodedig ar ôl.

Dechreuodd yr Eglwys Norwyaidd fach ei bywyd ger Doc Gorllewin Bute ym 1868. Fe'i datgymalwyd ym 1987 a'i hailailadeiladu ar ei safle amlwg presennol ar y glannau ym 1992.

Agorwyd eglwys Santes Fair y Forwyn gyda'i phâr o dyrau ar Stryd Bute ym 1842 ar dir a roddwyd gan Ardalydd Bute a oedd yn yr agoriad. Mae'r eglwys yn parhau i ffynnu gyda chynulleidfa amrywiol.