Skip to main content

Y Gymuned

Roedd Ardalydd Bute yn rhagweld Butetown lle byddai pob dosbarth - clercod, labrwyr a masnachwyr - yn cyd-fyw ac yn cydweithio. Roedd yr Ardalydd yn prydlesu lleiniau ar gyfer tai newydd i bobl eraill yn bennaf, ond fe osododd y ffyrdd, y carthffosydd, a'r draeniau. Roedd am i’r tai newydd fod yn llawer gwell na'r cyrtiau a'r tenementau gorlawn yn yr hen dref ac roedd tai tref urddasol Sgwâr Mount Stuart a Sgwâr Loudoun ymhlith cartrefi mwyaf gosgeiddig Caerdydd.

Ond wrth i drafnidiaeth wella gyda gwasanaethau rheolaidd i Ben y Lanfa, symudodd pobl gyfoethocach i filas newydd cain ar gyrion y dref.

Cyflymodd y broses o drawsnewid Sgwâr Mount Stuart yn gartref i swyddfeydd pan adeiladwyd y Gyfnewidfa Lo yng nghanol y sgwâr.

Roedd yr eiddo o amgylch Sgwâr Loudoun Square yn tueddu i gael eu troi’n dai llety - llety dros dro i forwyr o bob cwr o'r byd rhwng mordeithiau. Roedd tafarnau a sefydliadau eraill yn dilyn arian y morwyr, a ganed yr aml-ddiwylliannol Tiger Bay. Dywedwyd fod pobl o 50 cenedl o leiaf yno.

Gweithwyr y dociau neu weithwyr yn siopau a swyddfeydd canolfan fasnachol Butetown oedd fel arfer yn byw yn y rhesi o dai teras a ddatblygwyd yn agosach at fynedfa'r dociau.