Skip to main content

Masnach

Adeiladwyd Stryd Bute fel cyswllt rhwng y dociau a chanol Caerdydd.

Ar yr ochr ddwyreiniol roedd Doc Gorllewin Bute a'i gilffyrdd wedi’u gwahanu gan wal amddiffynnol uchel. Rhedai tramiau yng nghanol yr hyn oedd yn dramwyfa lydan. Siopau a thafarnau, gwestai a thai llety oedd ar ochr orllewinol rhan uchaf y ffordd yn bennaf.

Ond, tuag at ochr Pen y Lanfa, roedd llwyth o swyddfeydd cwmnïau cloddio glo, perchnogion llongau ac asiantau llongau ar y ddwy ochr. Roedd Stryd James a Stryd Stuart, oedd yn rhedeg o Stryd Bute i'r hyn oedd bryd hynny’n gamlas yn brysur gyda siopau a swyddfeydd hefyd.

Yn y blynyddoedd o ffyniant codwyd llawer o swyddfeydd crand a banciau trawiadol. Wedi hynny cafodd llawer eu hymestyn ar gyfer y galw cynyddol.

Yn ganolog i'r cyfan roedd y Gyfnewidfa Lo, y canolbwynt masnachu ar gyfer glo, lle cafodd y siec gyntaf erioed werth £1m ei hysgrifennu yn ôl y sôn.

Gyda dirywiad y fasnach lo, daeth yr hyn a fu'n ardal fasnachol o bwys yn un oedd yn cael ei thanddefnyddio a’i chynnal a’i chadw’n wael. Dros y blynyddoedd, cafodd llawer o adeiladau eu dymchwel a'u disodli ond mae adeiladau eraill wedi goroesi ac wedi eu trosi (neu mae cynlluniau i'w trosi) at ddefnydd arall, preswyl yn aml. Mae datblygiadau modern ynghlwm â phrosiect Bae Caerdydd wedi troi’r ardal yn un brysur a bywiog unwaith eto.