Skip to main content

Tafarndai

Roedd digonedd o dafarndai yn Tiger Bay a’r Dociau - dros 50 ohonyn nhw.

Roedd y Mount Stuart (gwreiddiol) neu'r Packet ychydig y tu hwnt i giatiau'r dociau ac yn mal, dyma gyrchfan cyntaf morwyr oedd newydd lanio ac roedd yn boblogaidd ar ddiwedd shifftiau gweithwyr oedd yn llwytho llongau.

Byddai gan y morwyr oedd newydd gyrraedd ddigon o ddewis o ran tafarndai ar y daith i’w llety yn Tiger Bay - roedd o leiaf 22 o dafarndai ar Stryd Bute yn unig. Byddai angen iddyn nhw fod yn ofalus nad oedden nhw’n cwrdd â’r "menywod ysgarlad" fyddai’n eu gwahodd i "barti", achos ar ddiwedd y noson gallai pob ceiniog oedd yn eu meddiant fod wedi diflannu.