Doc Dwyrain Bute
Gwta 12 mlynedd wedi i Ddoc y Gorllewin gael ei agor roedd eisoes yn ei chael hi'n anodd ymdopi â'r nifer cynyddol a maint y llongau, a llofnodwyd cytundebau i greu doc newydd.
Dechreuwyd ar y gwaith ym mis Ionawr 1852 a'i gwblhau ar gyfer agoriad ym mis Gorffennaf 1855. Ond hyd yn oed wrth gael ei adeiladu roedd hi'n amlwg nad oedd maint arfaethedig y doc yn ddigonol. Wedi hynny ychwanegwyd dau estyniad, un yn agor ym 1857 a’r llall ym 1859.
Maint y doc yn y pendraw oedd 4300 troedfedd o hyd, 300 troedfedd o led am 1000 troedfedd a 500 troedfedd o led am y gweddill. Roedd y loc mynediad yn 49 troedfedd o led. Roedd cyfanswm y gwariant yn £1.25m (£169m heddiw).
Honnir mai Doc Dwyrain Bute oedd y mwyaf ym Mhrydain, ac efallai’r byd, ar hynny o bryd, ac roedd y doc hwn yn unig yn trin 4m tunnell o lo bob blwyddyn drwy'r 1880au hwyr, gan gynnwys mewn shifftiau dros nos rheolaidd.
Ond nid glo oedd yr unig gynnyrch. Roedd sawl warws yng Nglanfa'r Iwerydd a phen gogleddol y doc. Roedd cei pren a phwll yno, a dociau sych a gwaith peirianyddol
-
011 0007
Sailing ships unloading timber in the late 1800's. In the background can be seen the clock and chimney of Spiller and Bakers flour mill. Llongau hwylio yn dadlwytho pren ddiwedd y 1800au. Yn y cefndir gellir gweld cloc a simnai melin flawd Spiller & Bakers. -
011 0007
Coal being loaded from staithes on each side of the dock. Steam ships waiting their turn. Glo yn cael ei lwytho o lanfeydd ar naill ochr y doc. Agerlongau yn aros eu tro. -
011 0007
The bonded warehouse seen here in 1979 dates back to 1861. It is Grade ll listed and is now converted into offices. Mae storfa’r tollau a welir yma ym 1979 yn dyddio'n ôl i 1861. Mae'n adeilad rhestredig Gradd Il ac mae wrthi’n cael ei droi'n swyddfeydd. -
011 0007
This 1888 photograph show the coal hoist on the east side of the Bute East Dock Basin wth a line of railway trucks loaded with coal. The pumping house with the chimney controlled the hydraulic machinery in the dock. Mae'r ffotograff hwn o 1888 yn dangos yr hoist glo ar ochr ddwyreiniol Basn Doc Dwyreiniol Bute gyda llinell o dryciau rheilffordd wedi'u llwytho â glo. Roedd y tŷ pwmpio â'r simnai yn rheoli'r peiriannau hydrolig yn y doc. -
012
This disused warehouse seen here around 1970 was once a busy storage facility for Coast Lines shipping company. Roedd y warws segur hwn, a welir yma tua 1970, ar un adeg yn gyfleuster storio prysur i gwmni llongau Coast Lines. -
301 6201
Taken in 1884 this photo shows the SS Alcester waiting to be loaded with coal at the Basin tip.
Why the crowd of spectators? The vessel was built in late 1883 and registered in Cardiff to C O Yound & Christie. Perhaps, this is its first visit to its home port and the owners invited people to show off their new ship.Wedi'i dynnu ym 1884, mae'r llun hwn yn dangos yr SS Alcester yn aros i gael ei llwytho gyda glo o domen y Basn.
Pam yr holl wylwyr? Adeiladwyd y llong ar ddiwedd 1883, ac fe’i cofrestrwyd yng Nghaerdydd i C O Yound & Christie. Mae’n bosibl taw dyma ei hymweliad cyntaf â'i phorthladd cartref a bod y perchnogion wedi gwahodd pobl i frolio eu llong newydd. -
iidaw crz6bqnb56oqywoe6awagdfo
South Wales Steamship Company began this liner service in 1872 from Atlantic Wharf with three ships - SS Glamorgan, SS Pembroke and SS Carmarthen.
The service was a not a success and closed within 4 years with losses approaching £100,000 (£12m today).Dechreuodd y South Wales Steamship Company y gwasanaeth leiners hwn ym 1872 o Lanfa'r Iwerydd gyda thair llong - SS Glamorgan, SS Pembroke ac SS Carmarthen.
Ni fu’r gwasanaeth yn llwyddiant ac fe gaeodd o fewn 4 blynedd gyda cholledion o bron £100,000 (£12m heddiw).