Ysgolion
Ym 1875, etholwyd Bwrdd Ysgol ar gyfer Caerdydd a dechreuodd yn syth ar y gwaith o adeiladu'r hyn y cyfeiriwyd atynt fel Ysgolion Bwrdd. Adeiladwyd dwy yn Butetown. Agorodd y gyntaf, Eleanor Street, ym 1878 ac yna South Church Street flwyddyn yn ddiweddarach. Roedd gan y ddwy 3 adran annibynnol – bechgyn, merched a babanod – bob un â'i phennaeth ei hun. Roedden nhw’n adeiladau ysblennydd wedi’u cynllunio gan benseiri yn fynegiant o falchder dinesig. Roedd yr ystafelloedd dosbarth yn fawr ar gyfer hyd at 60 neu 70 o ddisgyblion.
Ochr yn ochr ag Ysgolion y Bwrdd roedd ysgolion Eglwys Loegr yn Heol Clarence a North Church Street ac ysgol Gatholig, St Cuthberts, yn Stryd Pomeroy.
Yn sgil ailddatblygu Butetown mae’r rhain i gyd wedi diflannu ar wahân i Santes Fair y Forwyn yn North Church Street.
Mae Ysgol Gynradd Mount Stuart wedi disodli’r lleill yn ardal y Dociau, ac fe’i hagorwyd ym 1973. Mae cerflun goffa i Betty Campbell a fu'n bennaeth yno - y pennaeth du cyntaf yng Nghymru - ac oedd yn athro hanes pobl dduon arloesol, yng nghanol Caerdydd.
Mae Ysgol St Cuthbert wedi symud i leoliad newydd.
Agorwyd ysgol Gymraeg newydd Ysgol Hamadryad yn 2019.
-
007 0908
School room Ystafell ysgol -
007 0909
Group photo at South Church Street school. Llun grŵp yn ysgol South Church Street. -
009 0001
Primary school class photo. Llun dosbarth cynradd. -
003 1914
Classroom photo. Clarence Road School 1926. Llun dosbarth. Ysgol Heol Clarence 1926. -
005 1928
School football squad.
Eleanor Street school 1957.Carfan bêl-droed yr ysgol.
Ysgol Eleanor Street 1957. -
007 0897
St Mary the Virgin School.
Salvation Army hostel behind the school.Ysgol y Forwyn Fair
Hostel Byddin yr Iachawdwriaeth y tu ôl i'r ysgol. -
007 0898
Nursery Class. St Mary the Virgin Primary School in 1983. Dosbarth meithrin. Ysgol Gynradd y Forwyn Fair ym 1983. -
007 0905
South Church Street class in 1931-32. Dosbarth South Church Street ym 1931-32 -
012 0003v1
South Church Street school. Ysgol South Church Street.